Mae’r Cynllun Bathodyn Glas yn caniatáu i bobl sy’n cyflawni’r meini prawf cymhwysedd barcio mewn mannau lle y cyfyngir ar barcio’n gyffredinol i fodurwyr eraill. Mae’r Cynllun yn chwarae rhan bwysig yn helpu’r bobl hyn i oresgyn rhai o’r rhwystrau y byddant yn eu hwynebu wrth geisio cael swydd, a chyrraedd siopau a gwasanaethau pwysig eraill. Er mwyn gwneud gwasanaethau mor hygyrch â phosibl, rydym am barhau i ddarparu lleoedd parcio â blaenoriaeth i bobl sy’n ei chael hi’n anodd cyrraedd gwasanaethau angenrheidiol oherwydd bod y gwasanaethau hynny mor bell oddi wrth y mannau parcio a ddarperir. Hynny yw, pobl sy’n methu (neu fwy neu lai’n methu) â cherdded oherwydd bod arnynt nam parhaol a sylweddol neu bobl sydd wedi’u cofrestru â nam ar eu golwg.

Ers cyflwyno’r Cynllun yn yr 1970au, mae cynnydd aruthrol wedi bod yn nifer y Bathodynnau sydd ar waith. Ar hyn o bryd, mae gan dros 230,000 o bobl yng Nghymru Fathodyn Glas, ac mae llawer o’r bobl hyn yn dweud na allent deithio heb y sicrwydd y gallant barcio’n agos at y man lle mae angen iddynt fod. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod y Cynllun hollbwysig hwn yn parhau i ddarparu consesiynau parcio â blaenoriaeth i’r rhai y mae angen hynny fwyaf arnynt.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn pobl yngl!n â nifer o gynigion i wella’r Cynllun yng Nghymru er mwyn iddo adlewyrchu’r newidiadau cymdeithasol sylweddol sydd wedi digwydd dros y 40 mlynedd diwethaf, ac er mwyn sicrhau bod y Cynllun yn cael ei weinyddu’n effeithlon, yn gyson ac yn deg.

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 31 Hydref 2011.  Sut i ymateb

 

This entry was posted in Newyddion. Bookmark the permalink.

Comments are closed.