Gallai gyffur gwrth-gansar fod yr allwedd i drin CFS, yn ôl ymchwilwyr o Norwy. Lleihaodd symptomau’r clefyd mewn deg allan o bymtheg o gleifion a gafodd Rituximab, cyffur gwrth-lymffoma, ac ymddengys fod dau wedi gwella’n llwyr. Bu i’r rhan fwyaf o gleifion brofi ail bwl o salwch ar ôl cyfnod ond mae’r doctoriaid nawr yn arbrofi gyda pharhad o’r triniaethau gyda’r bwriad o gynnal yr effaith da. Mae’r arolygon yn obeithiol.

Mae Rituximab yn gweithio drwy ddinistrio celloedd gwaed gwynion sy’n gwneud gwrthgorffynnau, a elwir yn gelloedd B. Mae canlyniadau’r treial felly’n awgrymu y gallai’r cellloedd gwaed gwynion hyn fod a rhan mewn achosi CFS a fod CFS yn glefyd hunan-imiwn. Darganfyddodd y tîm ar ddamwain y gallai Rituximab weithio ar CFS ar ôl gweld symptomau’n lleihau mewn claf oedd hefo lymffoma a CFS.

Erthygl New Scientist                           Eitem Newyddion TV2

 

This entry was posted in Newyddion. Bookmark the permalink.

Comments are closed.