Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd, wedi cyhoeddi gweledigaeth bum mlynedd newydd ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Roedd y weledigaeth hon yn seiliedig ar wasanaethau cymunedol ac ar roi ansawdd, atal a thryloywedd wrth galon gofal iechyd.

Mae Law yn Llaw at Iechyd yn amlinellu’r heriau sy’n wynebu’r gwasanaeth iechyd a’r camau sydd angen eu cymryd i sicrhau bod ei berfformiad yn un o safon fyd-eang.

Mae’n rhestru’r ffactorau sydd y tu ôl i’r angen am newid, gan gynnwys poblogaeth hŷn sy’n cynyddu, anghydraddoldebau iechyd, mwy o bobl â chyflyrau cronig, a’r pwysau ar staff meddygol ac ar rai gwasanaethau arbenigol.

Mae’r ddogfen yn nodi sut bydd y GIG yn edrych mewn pum mlynedd, yn seiliedig ar roi rhan bwysig i wasanaethau sylfaenol a chymunedol ei chwarae.

 

This entry was posted in Newyddion. Bookmark the permalink.

Comments are closed.