Ychydig cyn y Nadolig, cafodd Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011 gymeradwyaeth unfrydol gan y Cynulliad Cenedlaethol. Bydd y Rheoliadau’n rhoi Mesur Strategaeth ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010 a mae’r Mesur yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau dynodedig i baratoi, cyhoeddi a gweithredu strategaeth er budd gofalwyr sy’n darparu gofal di-dâl. Bydd y strategaethau’n nodi sut y bydd gwybodaeth a chyngor yn cael eu rhoi i’r gofalwyr hyn er mwyn eu helpu i gyflawni eu rôl yn effeithiol. Byddan nhw hefyd yn nodi sut y bydd gofalwyr yn cael rhoi eu sylwadau am benderfyniadau sy’n effeithio arnynt a’r rheini y maen nhw’n gofalu amdanynt. Bydd y gofalwyr yn cael cymryd rhan yn y penderfyniadau hynny.

Yr awdurdodau dynodedig cyntaf yw Byrddau Iechyd Lleol ledled Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Felindre, Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru a gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Disgwylir i’r Byrddau Iechyd gydweithio â’r awdurdodau sy’n bartneriaid allweddol i gynllunio a darparu’r strategaethau hyn. Mae’r partneriaid yn cynnwys y Gwasanaethau Cymdeithasol, mudiadau Trydydd Sector sy’n cynrychioli gofalwyr, a meddygon teulu. Mae £5.8 miliwn wedi’i neilltuo ar gyfer y Byrddau Iechyd dros y tair blynedd nesaf i’w helpu i hyfforddi staff a rhoi eu strategaethau lleol ar waith. Mae’r gofyniad yn glir bod yn rhaid iddynt gydweithio a’u partneriaid a rhannu’r arian yn briodol.

Datganiad i’r wasg

 

This entry was posted in Newyddion. Bookmark the permalink.

Comments are closed.