Roedd ymchwilwyr o Fryste eisiau gwybod pa ffactorau a rwystrai plant gyda CFS/ME rhag cael mynediad at ofal. Gan ddefnyddio asesiadau hunan-gyflawni gyda 405 o blant a chyfweliadau rhannol-strwythuredig gyda rhieni, darganfyddasant mai dim ond 19% o blant a gafodd eu gweld gan uned arbenigol o fewn yr amser a argymhellwyd gan NICE.

Roedd y rhesymau am hyn yn cynnwys

  • diffyg gwybodaeth am y cyflwr ar ran meddygon teulu, paediatryddion a rhieni
  • agweddau a chredoau negyddol gan feddygon teulu, paediatryddion a seicolegwyr plant
  • rhieni yn ymdrechu i gyfathrebu mai gan eu plentyn roedd salwch, ac nid nhw eu hunain

Daethant i i’r farn fod Meddygon Teulu, Seiciatryddion Plant a Phaediatryddion angen mwy o wybodaeth am CFS/ME ac angen llwybrau cyfeirio addas i sicrhau fod cyfeirio i wasanaethau arbenigol yn digwydd o fewn amser derbyniol.

Erthygl

This entry was posted in Newyddion. Bookmark the permalink.

Comments are closed.