Mae Richard Hazlewood, ymgynghorydd arbennig i’r Ysgrifennydd Cymreig, Cheryl Gillan, yn mynd ar reid beics i godi pres at achos da, ar ôl i’w wraig Rachel gael deiagnosis o ME. Fis Medi nesaf, bydd yn reidio’r 300 milltir rhwng Llundain, Amsterdam a Brwsel i’r ME Association. Gall pobl gyfrannu i’r her ar lein.