Ymgyrchoedd WAMES

2012

Arolwg WAMES o wasanaethau 2012

Rydyn ni am glywed am eich barn a’ch profiadau chi am wasanaethau yng Nghymru. Mwy

ME Wythnos ymwybyddiaeth 2012: 6 – 12 Mai

Eleni, bydd WAMES yn ymuno â Facebook a Twitter i helpu i godi proffil ME yng Nghymru. Oes arnoch chi angen cymorth i gynllunio neu hysbysebu’ch syniadau codi ymwybyddiaeth? Cysylltwch â Sylvia.

2011

Gwybodaeth ME a CFS i bawb

Mae 10 mlynedd o ymgyrchu am well gwasanaethau ac o siarad â phobl ag ME, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol wedi dangos i ni nad ydy gwybodaeth gywir am ME ddim yn cyrraedd y rhai sydd ei hangen. Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth ME, lansiodd WAMES ymgyrch i ddarparu gwell gwybodaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg ar gyfer pawb sydd ei hangen, gan ddechrau gyda’n gwefan newydd. Rydyn ni’n defnyddio canlyniadau ymchwil, profiad clinigwyr a storïau cleifion a gofalwyr i gynhyrchu taflenni gwybodaeth ar amrywiaeth eang o dopigau. Bydd y rhain i’w cael ar y wefan yn ystod y flwyddyn, dan nawdd y Gronfa Loteri Fawr. Rydyn ni’n gwahodd pobl i gysylltu â ni i roi gwybod sut y gallwn gwrdd â’ch anghenion gwybodaeth.

Gwisgwch las dros ME

Mae WAMES yn gwahodd pobl ag ME, eu ffrindiau a’u teuluoedd i godi ymwybyddiaeth am ME trwy wisgo rubanau glas neu eitemau o ddillad glas yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth ME.

2007- 2008

Peidiwch ag anghofio am ME!

Yn dilyn yr arolwg o Fyrddau Iechyd Lleol gan WAMES, rhoeson ni her i’r byrddau hyn i ddarparu gwasanaethau priodol yn unol â Fframwaith Rheoli Cyflyrau Cronig Llywodraeth Cynulliad Cymru.

2005

Diagnosis o ME – oedi’n niweidio iechyd

Ymunodd WAMES â grwpiau ledled y DU i amlygu’r anawsterau mae pobl yn eu hwynebu wrth geisio cael diagnosis, a’r niwed mae oedi’n gallu ei achosi.

Yn ôl i’r brig

 

Comments are closed.