Gyda thristwch mawr yr ydym yn cyhoeddi marwolaeth Dr Betty Dowsett ar Fehefin 14 mewn cartref nyrsio yng Nghaergrawnt, yn 91 oed. Yn 2001, a hithau’n 80 oed, ac eisoes wedi ymddeol ers sawl blwyddyn, Dr Dowsett oedd y prif siaradwr pan lansiwyd WAMES yn y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd, a pharhaodd i fod yn ymgynghorydd i ni o hynny ymlaen. Roedd ei chefnogaeth yn ystod ein blynyddoedd cynnar wedi rhoi i ni’r hyder i ymgyrchu ‘yn erbyn llif’ y llanw meddygol.

Ganwyd Betty yng Nghasnewydd, Gwent, ac astudiodd feddygaeth ym Mhrifysgol Caeredin. Gweithiodd fel meddyg teulu yn Llundain, yna, yn dilyn astudiaethau pellach, aeth yn ficrobiolegydd ymgynghorol. Cronnodd arbenigedd mewn ME, gan weld miloedd o bobl ag ME o’r 1960au ymlaen wrth iddi weithio gyda Dr John Richardson a Dr. Melvin Ramsey. Roedd hi’n allweddol yn y gwaith o sefydlu’r clinig ME cenedlaethol yn Essex gyda’r Athro Leslie Findley.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, roedd hi hefyd wedi gweithio gyda Jane Colby a’r Young ME Sufferers Trust (Tymes Trust), ar astudiaeth arloesol ar ME fel achos absenoldeb salwch hirdymor sylweddol o’r ysgol. Yn dilyn ei hymddeoliad, parhaodd i ddarlithio a chynghori cleifion a gweithwyr proffesiynol am ME, a hynny ar ei chost ei hun. Cafodd ei dyfynnu’n dweud, “Nid eich henaint sy’n cyfrif ond beth y gallwch ei wneud, ac ni fyddwch fyth yn rhy hen i wneud rhywbethâ€.

Mae Simon Lawrence o’r Grŵp ME 25% wedi crynhoi ei bywyd:

“Roedd hi’n rhywun oedd wedi ymladd yn ddygn ac yn ddewr yn erbyn y sefydliad ynghylch eu safiad ar ME. Roedd hi’n llawn cydymdeimlad ac empathi tuag at bawb oedd yn cysylltu â hi am gymorth a chefnogaeth. Roedd hi’n rhywun nad oedd yn ceisio ennill clod nac enw iddi’i hun wrth helpu eraill, ond, yn syml, roedd yn gwneud y gwaith gan ei bod yn teimlo, fel meddyg, ac yn fwy pwysig, fel bod dynol, ei bod yn ddyletswydd arni i helpu. Yn wir, roedd hi’n cael pleser mawr o helpu pobl gyda’r afiechyd hwn.â€

Cynhelir yr angladd ar ddydd Gwener 29 Mehefin. Yn hytrach nag anfon blodau, mae’r teulu wedi gofyn i bobl anfon cyfraniadau’n uniongyrchol i elusen ME o’u dewis.

Dylid anfon cardiau at The Family of Betty Dowsett, c/o The Cottenham Court Nursing Home, High Street, Cottenham, Cambridge CB24 8SS (ond peidiwch ag anfon cyfraniadau gyda’ch cardiau).

Llyfryddiaeth o bapurau Dr Dowsett

This entry was posted in Newyddion and tagged . Bookmark the permalink.

Comments are closed.