Hysbyseb Swydd – Gweithiwr Datblygu wedi’i leoli yn y Drenewydd, Powys
Prosiect 4 blynedd, rhan-amser 10 awr yr wythnos
Cyflog £6,773.71 yf (£23,708 pro rata)
Cyfle i weithio gyda MANGO (Cynghrair Grwpiau a Mudiadau Niwrolegol Sir Drefaldwyn) o dan brosiect Powys yn Un – Cysylltu Lleisiau.
Byddwch yn galluogi pobl sydd â chyflyrau niwrolegol trwy Bowys gyfan i gael llais cryf ac effeithiol. Byddwch yn gweithio’n agos gydag unigolion yn ogystal â grwpiau a sefydliadau statudol ar draws y sir, gyda’r nod o ddeall a hyrwyddo’r hyn sydd ei angen ar unigolion i wella gwasanaethau, mynediad at wasanaethau, ac ansawdd bywyd gwell.
Byddwch yn meddu ar
• Sgiliau cyfathrebu gwych;
• Sgiliau TGCh da.
• Y gallu i greu perthynas gyda phobl ar bob lefel
• Sgiliau cyflwyno a gwaith grŵp
Byddwch yn
• Gryf eich cymhelliad, yn hyblyg, yn gallu teithio, ac yn drefnus
Byddai profiad o, a gwybodaeth am oblygiadau byw gyda chyflwr meddygol cronig yn fantais.
Byddai’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn fantais.
Dyddiad cau: 8fed Gorffennaf 2013
Cynhelir cyfweliadau ar 16eg Gorffennaf 2013, pan fydd gofyn i chi roi cyflwyniad 10 munud a baratowyd ymlaen llaw, yn ogystal â chael cyfweliad ffurfiol.
Ceir pecyn cais drwy ffonio 01686 621537 neu e-bostio: lisa.banfield@pavo.org.uk
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys
Ariennir y swydd hon trwy’r Gronfa Loteri Fawr.