ME: Safonau Consensws Rhyngwladol

Mae safonau deiagnosio ar gyfer ME wedi cael eu cyhoeddi gan 25 awdur o 13 gwlad, ac a gafodd ei arwain gan olygyddion Canllawiau Canada, Bruce M Carruthers MD CM FRCP(C) a Marjorie I van de Sande BEd GradDip Ed, ac yn cynnwys cynghorydd meddygol WAMES Dr Nigel Speight. Defnyddiodd y panel ddogfen consensws Canada fel man cychwyn ond gwnaethant nifer o newidiadau arwyddocaol, gan gyflawni consensws 100% a dyfynnu 123 o gyhoeddiadau i gefnogi’i argymhellion.

Mae’r prif bwyntiau yn cynnwys:

  • “In view of more recent research and clinical experience that strongly point to widespread inflammation and multisystemic neuropathology, it is more appropriate and correct to use the term “myalgic encephalomyelitis”(ME) because it indicates an underlying pathophysiology.”
  • “…diagnosis should be made when the clinician is satisfied that the patient has ME rather than having the diagnosis restricted by a specified time factor. Early diagnoses may elicit new insights into the early stages of pathogenesis; prompt treatment may lessen the severity and impact.”
  • “A patient with ME will meet the criteria for post-exertional neuroimmune exhaustion (PENE), at least one symptom from three neurological impairment categories, at least one symptom from three immune/gastro-intestinal/genitourinary impairment categories, and at least one symptom from energy metabolism/transport impairments.”
  • “Post-exertional neuroimmune exhaustion is part of the body’s global protection response and is associated with dysfunction in the regulatory balance within and between the nervous, immune and endocrine systems, and cellular metabolism and ion transport. The normal activity/rest cycle, which involves performing an activity, becoming fatigued, and taking a rest whereby energy is restored, becomes dysfunctional.”
  • “Atypical Myalgic Encephalomyelitis meets criteria for post-exertional neuroimmune exhaustion but has two or less than required of the remaining criterial symptoms.”

Crynodeb                                                   Wedi’i dynnu o’r papur ymchwil

 

 

Posted in Newyddion | Comments Off on ME: Safonau Consensws Rhyngwladol

Attention and memory problems in children with CFS/ME

A team from Bath University’s CFS Clinic for children have published an assesment of attention and memory problems in children with CFS/ME.

Abstract:

Our recent research has shown that children with chronic fatigue syndrome/myalgic encephalomyopathy (CFS/ME) describe problems with focused attention, sustained attention, recall and stress. Neuropsychological testing demonstrated lower scores for sustained attention, switching attention, divided attention, auditory learning and immediate recall compared to normative data. This paper describes what is currently known about memory and attention problems in children with CFS/ME and suggests a variety of strategies that could be used to overcome these difficulties.

Posted in Newyddion | Comments Off on Attention and memory problems in children with CFS/ME

Amhariad ar Weithrediad y galon yn CFS

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Newcastle, sy’n defnyddio tagio calon cyseiniant magnetig, wedi darganfod nad ydi calonnau pobl gyda CFS yn gweithio cystal â phobl iach.

Research conclusion: “patients have markedly reduced cardiac mass and blood pool volumes, particularly end diastolic volume: this results in significant impairments in stroke volume and cardiac output compared to controls. The CFS group appeared to have a delay in the release of torsion.”

Impaired Cardiad Function in Chronic Fatigue Syndrome measured using Magnetic Resonance Cardiac Tagging. 

 

Posted in Newyddion | Comments Off on Amhariad ar Weithrediad y galon yn CFS

Radio Wales asks: Is ME physical or psychological?

This morning on Radio 4’s Today programme Dr Simon Wessely claimed that he had received a series of death threats and threatening phone calls because of his views on ME, and now has his mail routinely scanned for suspect devices. The programme also highlighted the problem of scientists being scared away from research into CFS because of intimidation.

Picking up that story the Radio Wales Phone-in at lunchtime asked the question: Is ME physical or psychological? They invited people with ME to ring in and talk about their experiences. Dr Charles Shepherd from the ME Association, Dr Esther Crawley from the Bath University’s Dept of Paediatrics and Michelle and Sylvia Penny from WAMES were amongst the people who were interviewed. All condemned the extreme actions of a small group of people who harassed others. The points that were highlighted were the difficulty of getting a diagnosis and treatment in Wales, the debilitating nature of the condition and the desperate need for bio-medical research into the causes.

The Radio Wales Phone-in is now available on You tube.

You can hear the Radio 4 Today programme news item and an interview with Simon Wessely and read more about it on the BBC website.

 

Posted in Newyddion | Comments Off on Radio Wales asks: Is ME physical or psychological?

Beth yw eich symptomau?

Fedrwch chi helpu WAMES egluro i gomisiynwyr gwasanaethau a doctoriaid sut beth ydi o i fod hefo ME? Mae pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru wedi dechrau datblygu gwasanaethau ac mae WAMES yn siarad hefo’r bobl sy’n gyfrifol amdanynt. Un o’r pethau rydym yn ceisio eu cael hwy i ddeall ydi nad ydi ME yn gyfystyr â blinder yn unig; fod llawer o symptomau gwael a fod y blinder yn rhan o deimlo’n sâl a gwan, nid teimlo’n flinedig yn unig. Byddai’n fy helpu i gael rhai ‘astudiaethau achos’ i fynegi’r pwyntiau hyn.

Gyrrwch baragraff os gwelwch yn dda yn rhestru’r symptomau a ddisgrifioch chi i’ch doctor yn y blynyddoedd cynnar a’r effaith a gawsant ar eich bywyd. Nid ydym angen traethawd fyddai’n ennill gwobrau ac nid oes rhaid iddo fod yn hir. Bu i lawer ohonom ymdrechu i egluro’n glir i’r Meddyg Teulu sut oeddem yn teimlo, felly, byddai ambell frawddeg di-gyswllt yn rhoi dealltwrieaeth da o’r sialens sy’n wynebu Meddygon Teulu. Ychwanegwch enw bedydd os gwelwch yn dda, i adnabod eich paragraff – nid oes rhaid iddo fod eich enw iawn – a’r sir rydych yn byw ynddi. Os hoffech ychweanegu mwy am eich profiadau gyda doctoriaid, triniaethau, budd-daliadau, ysgol, cyflogaeth ayb, gwnewch hynny, os gwelwch yn dda. Mae’n werthfawr bob amser cael esiamplau o fywyd go iawn pan yn ymgyrchu.

Ynghyd â defnyddio’r wybodaeth gyda chomisiynwyr gwasanaethau, rwy’n gobeithio cynhyrchu taflen wybodaeth sy’n cynnwys rhai o’r ‘astudiaethau achos’ a’i rhoi ar y wefan. Byddai’ch enw iawn yn cael ei gadw’n gyfrinachol. Gyrrwch hwy i Jan.

 

Posted in Newyddion | Comments Off on Beth yw eich symptomau?

Dr Sarah Myhill – pob sancsiwn wedi’u diddymu!

Mynychodd Dr Myhill wrandawiad adolygiadol o flaen Panel Gorchmynion Dros Dro (IOP) y Cyngor Cyffredinol Meddygol (GMC) ddydd Mawrth, 26ain o Orffennaf 2011. Penderfynodd y Panel fod y gorchymyn dros dro, a osodwyd ar ei chofrestriad yn ystod y gwrandawiad cyntaf yn Ebrill 2010 ac a oedd i barhau am 18 mis, ddim yn angenrheidiol. Diddymodd y Panel y gorchymyn, a oedd i’w weithredu’n syth. Mae gwrandawiad Ffitrwydd I Ymarfer wedi’i drefnu gan y GMC ar gyfer Rhagfyr 2011/Ionawr 2012.

Ewch i’r wefan Supporting Dr Myhill i gael testun yr hyn benderfynodd yr IOP a diweddariadau pellach.

 

Posted in Newyddion | Comments Off on Dr Sarah Myhill – pob sancsiwn wedi’u diddymu!

Ail ymgynghoriad ar yr WCA

Mae’r Athro Malcolm Harrington wedi dechrau ail alwad am dystiolaeth  (cwestiynau’n cychwyn ar dudalen 10) ar gyfer ei adolygiad annibynnol  o’r WCA, y prawf a ddefnyddir i asesu hawlwyr Lwfans Gwaith a Chefnogaeth (ESA)

Mae’r athro Harrington eisiau eich barn a thystiolaeth am:

  • effaith rhoi ar waith ei set cyntaf o argymhellion (summary p9-11)
  • yr asesiad wyneb-wrth-wyneb gan Atos
  • pa waith pellach sydd ei angen mewn adolygiadau yn y dyfodol

Dyddiad cau yr alwad am dystiolaeth ydi 16fed o Fedi 2011.  Bydd Adolygiad Annibynnol terfynol yn cael ei osod gerbron San Steffan a’i chyhoeddi cyn diwedd 2011.  Gellwch gyfrannu i ymateb WAMES drwy gysylltu â Sylvia.

 

 

Posted in Newyddion | Comments Off on Ail ymgynghoriad ar yr WCA

Gwasanaeth CFS Claf Mewnol Essex i gau

Mae gwasanaeth CFS Deiagnosio ac Adfer Cenedlaethol yn Ysbyty Queen’s, Romford, Essex i gau. Roedd y cyfleuster claf mewnol hwn, sydd wedi ei leoli yn Uned Niwrowyddoniaeth Essex, yn derbyn cleifion o’r DU gyfan, gan gynnwys Cymru, a’r uned hon oedd yr unig un o’I math,ond roedd y nifer o bobl yn cael eu derbyn yno yn disgyn, o bosib oherwydd toriadau mewn costau. Mi fydd prif arbenigwr y gwasanaeth, Yr Athro Lelie Findley, yn ymddeol a bydd y 5 gwely yn cael eu defnyddio ar gyfer cleifion niwro-adfer lleol.

 

Posted in Newyddion | Comments Off on Gwasanaeth CFS Claf Mewnol Essex i gau

Genynnau Syndrom Coesau Aflonydd

Mae tîm traws-genedlaethol o wyddonwyr wedi darganfod dau enyn gwallus sy’n achosi Syndrom Coesau Aflonydd (RLS), cyflwr sy’n effeithio 5 miliwn o bobl yn y DU, gan gynnwys pobl hefo ME. Gobeithir y bydd y darganfyddiad yma yn arwain rhyw ddydd at driniaeth effeithiol.

Astudiaeth yn Plos Genetics             Erthygl yn y Daily Mail

 

 

 

Posted in Newyddion | Comments Off on Genynnau Syndrom Coesau Aflonydd

Canllawiau CFS newydd ar gyfer Meddygon Teulu

Mae Innovait, y cylchgrawn i Gysyllteion mewn Hyfforddiant (AiT’s) Coleg Brenhinol Meddygon Teulu, wedi cyhoeddi erthygl ar Chronic Fatigue Syndrome yn pwysleisio rôl Meddygon Teulu mewn gwneud deiagnosis cynnar a rhoi cyngor ar sut i ireoli CFS. Mae’n gwrthod dosbarthiad CFS fel cyflwr niwrolegol a siarada am bobl gyda hanes o lesgedd cronig fel rhai â phroblemau iechyd meddwl.

Mae Meddygon Teulu yn cael eu hannog i:

  • gymryd hanes bioseicogymdeithasol manwl i ddarganfod ffactorau fyddai’n debygol o ganiatau’r cyflwr i barhau, ac i amlygu disgwyliadau ac amcanion y claf
  • gwirio am salwch seicolegol tra’n osgoi’r arfer o wirio’n eang am salwch corfforol
  • osgoi cyfeirebu eang amhriodol i glinigau meddygol arbenigol.
  • dangos eich bod yn eu credu hwy
  • delio’n gynnar gyda gallu claf i barhau mewn gwaith neu addysg
  • canolbwyntio ar reoli symptomau a gwella gweithrediad
  • cynghori cleifion i beidio â gwneud gweithgaredd egniol di-strwythur a heb oruchwyliaeth tebyg i “fynd i’r gampfa” neu “ymarfer mwy”
  • cynghori cleifion i gyfyngu cyfnodau o orffwys i 30 munud ar y tro i osgoi gorwedd am gyfnod hir
  • annog cleifion sy’n dioddef atgwymp i ‘gynnal gweithgaredd a lefelau ymarfer yn ystod y fath anhawster. Mae’n amheus a fyddai cleifion o’r fath yn elwa o fewnbwn arbenigol pellach
  • cynghorwch fod ‘CBT a GET yn gallu cael eu defnyddio’n ddiogel a fod CBT a GET yn driniaethau mwy effeithiol na APT neu ofal meddygol arbenigol’
  • helpwch hwy i wneud cais am ‘addasiadau ac offer addas
  • gwnewch yn siŵr fod cleifion yn derbyn eu haeddiannau budd-dâl llawn
  • cyfeirwch blant i wasanaeth pediatrig (ar ôl i symptomau fod yn bresennol am 6 wythnos)

 

 

Posted in Newyddion | Comments Off on Canllawiau CFS newydd ar gyfer Meddygon Teulu