Mynychodd Anabledd Cymru Dai’r Cyffredin ar 24ain o Fai i roi tystiolaeth ar lafar i Archwiliad y Cyd-Bwyllgor ar Iawnderau Dynol ar weithredu’r hawl i Fyw’n Annibynnol. Mae polisiau cenedlaethol ar Fyw’n Annibynnol wedi cael eu cyflwyno yn Lloegr a’r Alban, ond nid yng Nghymru. Mewn trafodaeth yn y Cynulliad Cenedlaethol ar 12 Mai 2010, cafwyd cefnogaeth unfrydol ar draws y pleidiau o egwyddorion ymgyrch Byw’n annibynnol NAWR!, sy’n galw am strategaeth genedlaethol ar gyfer Byw’n Annibynnol.
Arwyddwyd deiseb Anabledd Cymru o blaid sefydlu strategaeth genedlaethol ar gyfer Byw’n Annibynnol gan 719 person ar draws y wlad. Edrychir ar y ddeiseb gan Bwyllgor Deisebau y Cynulliad.
‘Mae Byw Annibynnol yn ein galluogi ni fel pobl anabl i gyflawni ein nod ein hunain ac i fyw ein bywydau ein hunain yn y ffordd a ddewiswn ar ein cyfer ni’nhunain.’
(Anabledd Cymru 2010)