Mae polisiau cenedlaethol ar Fyw’n Annibynnol wedi cael eu cyflwyno yn Lloegr a’r Alban, ond nid yng Nghymru.  Cafodd trafodaeth yn y Cynulliad ar 12 o Fai 2010, gefnogaeth unfrydol yr holl bleidiau o egwyddorion ymgyrch Anabledd Cymru, Byw RWAN!, a oedd yn galw am Strategaeth Cenedlaethol ar Fyw’n Annibynnol.  Cafodd  deiseb gan Anabledd Cymru yn dangos cefnogaeth o Strategaeth Cenedlaethol ar Fyw’n Annibynnol ei arwyddo gan 719 o bobl ar draws Cymru.  Mae’r ddeiseb yn cael ei chysidro gan Bwyllgor Deisebau y Cynulliad.

“Mae Byw’n Annibynnol yn ein caniatau ni, fel pobl anabl, i gyflawni’n bwriadau ac i fyw ein bywydau yn y ffordd rydym yn dewis i ni’n hunain.” (Anabledd Cymru 2010)

Mae Byw’n Annibynnol yn cael ei ddisgrifio gan y Swyddfa ar gyfer Materion Anabledd fel a ganlyn:

“Mae Byw’n Annibynnol yn golygu fod pobl anabl yn cael yr un lefel o ddewis, rheolaeth a rhyddid yn eu bywydau bob dydd ag unrhyw un arall.”

Mynychodd Anabledd Cymru Dai’r Cyffredin ar 24ain o Fai i roi tystiolaeth ar lafar i Ymchwiliad y Cyd-Bwyllgor Hawliau Dynol ar weithredu’r hawl i Fyw’n Annibynnol.

Darllennwch Maniffesto Anabledd Cymru ar Fyw’n Annibynnol

 

This entry was posted in Newyddion. Bookmark the permalink.

Comments are closed.