Mae sesiynau Gwasanaeth Cyngor Ariannol am ddim a gyflwynir gan Gyngor Ar Bopeth Cymru yng Nghymru wedi bod ar gael ers mis Ebrill 2011. Ers sefydlu’r prosiect, mae mwy na 5000 o bobl wedi elwa o gyngor ariannol am ddim. Maen nhw wedi cyflwyno sesiynau o fwy na 160 o leoliadau ar ran y Gwasanaeth Cyngor Ariannol.

Mae’r sesiynau Cyngor Ariannol wyneb yn wyneb yn cael eu haddasu i ddiwallu anghenion ac amgylchiadau unigol a gallant roi’r wybodaeth a’r hyder y mae pobl ei angen i wneud y penderfyniadau ariannol sy’n briodol iddynt hwy. Er nad yw’r un peth â chyngor am ddyledion, mae gan gyngor ariannol botensial i helpu pobl i gynllunio ar gyfer dyfodol diogelach yn ariannol, gan leihau’r risg o ddyledion na ellir eu rheoli yn nes ymlaen.

Ceir llinell archebu ganolog ddwyieithog y gall pobl ei ffonio o unrhyw le yng Nghymru. Y rhif ydi 03003300520 ac mae ar agor bob dydd o’r wythnos ac ar ddydd Sadwrn. Gwasanaeth archebu ar-lein ar gael ar moneyadviser@citizensadvice.org.uk

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth – o gyfeirio cleientiaid i gynnal Sesiynau Cyngor Ariannol mewn lleoliad yn agos atoch chi – fe hoffem glywed gennych chi. Cysylltwch ag Ian Howell-Morgan, e-bost: ian.howell-morgan@citizensadvice.org.uk neu ffoniwch: 07814216494.

This entry was posted in Newyddion and tagged , , , . Bookmark the permalink.

Comments are closed.