Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig llawer o newidiadau yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Mae’r Llywodraeth yn sefydlu paneli ledled Cymru er mwyn i bobl ddweud wrth y Llywodraeth ym mha ffordd y gellir gwella’r gwasanaethau a ddefnyddient.

Gofynnwyd i Gyfranogaeth Cymru, i sefydlu’r paneli a chynorthwyo aelodau o’r paneli.

Rydym yn gwahodd pobl sy’n defnyddio’r Gwasanaethau Cymdeithasol, gofalwyr y rheini sy’n defnyddio’r Gwasanaethau Cymdeithasol a phobl eraill sydd â diddordeb yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Cymru, i wneud cais i fod yn aelodau o’r paneli hyn.

Bydd paneli pobl ifanc ar gyfer pobl sydd o dan 18 oed yn cael eu creu, a phaneli ar gyfer oedolion hefyd. Bydd y paneli yn cael ei rhoi ar waith yng Ngogledd, De Ddwyrain a De Orllewin Cymru.

Bydd y Paneli Dinasyddion yn rhoi ffordd i Lywodraeth Cymru wirio sut y maent yn ei wneud. Byddant yn gwneud yn siwr bod pobl sy’n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol yn ganolog wrth benderfynu sut y dylai’r gwasanaethau hyn newid.

Bydd y Paneli yn rhoi eu sylwadau a’u barn ar lefel wirioneddol bwysig lle y gallant wneud newidiadau go iawn. Byddant yn helpu i fesur os yw polisïau a chynlluniau yn gwneud gwasanaethau yn well a byddant yn helpu i ddangos lle nad yw’r gwasanaethau yn cael eu gweithio cystal ag y dylent.

Bydd rhaid i aelodau’r panel adlewyrchu barn ehangach defnyddwyr gwasanaethau cymdeithasol a gofalwyr. Byddant yn edrych ar wasanaethau sy’n cael eu darparu ledled Cymru. Byddant yn dweud yr hyn y maent yn meddwl fel defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, a hefyd yn dweud beth maen nhw’n feddwl yw’r pethau pwysicaf i ddelio â hwy.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio ac mae angen cymorth arnoch i wneud hynny, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni; rydym yn barod iawn i’ch helpu. Ebostiwch participationcymru@wcva.org.uk neu ffoniwch 029 2043 1757.

Gofynnwn i chi anfon eich cais atom erbyn 5pm ar 21 Medi 2012.

Croesawir ceisiadau ysgrifenedig, fideo neu sain.

 

This entry was posted in Newyddion and tagged , , , . Bookmark the permalink.

Comments are closed.