Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu gynlluniau a fydd yn ceisio chwalu’r rhwystrau y mae pobl anabl yng Nghymru yn eu hwynebu.

Mae’r fframwaith gweithredu ar gyfer byw’n annibynnol yn disgrifio’r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd er mwyn sicrhau y gall pobl anabl fanteisio ar wasanaethau a chyfleoedd yn yr un modd â gweddill y gymdeithas.

Dyma’r cynllun Cymreig cyntaf o’i fath sy’n ymwneud ag anabledd ac mae’n dwyn ynghyd faterion yr arferai’r llywodraeth ymdrin â hwy ar wahân. Cyfrannodd pobl anabl a sefydliadau ar gyfer pobl anabl at holl gamau llunio’r cynllun.

Mae’r fframwaith yn disgrifio gweledigaeth bositif ar gyfer pobl anabl er gwaethaf y ffaith nad yw’r economi’n rhy lewyrchus ac er gwaethaf y newidiadau i’r system les a thoriadau mewn gwariant cyhoeddus.

Mae mesurau’r cynllun yn cynnwys:

  • Cynyddu nifer y bobl anabl a all ddefnyddio’r Rhyngrwyd.
  • Atgyfnerthu hawliau pobl ag anableddau dysgu o safbwynt tenantiaeth.
  • Cydweithio â’r GIG, cynghorau a’r trydydd sector fel y gall yr holl wasanaethau, gofal a chymorth neu gymaint â phosibl ohonynt gael eu darparu yn y cartref neu mor agos â phosibl ato.
  • Rhoi rhagor o lais i grwpiau anabledd ar lefel strategol drwy sefydlu paneli annibynnol ar gyfer defnyddwyr a gofalwyr.
  • Ei gwneud hi’n haws i bobl anabl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys hybu safonau uwch o safbwynt hyfforddiant ar gyfer gyrwyr a’r cerbydau sydd ar gael.
  • Datblygu Siarter ar gyfer Teithwyr Anabl ar Drafnidiaeth Gyhoeddus fel y gall teithwyr anabl adnabod gweithredwyr bysiau a threnau sydd wedi ymrwymo i’w gwneud hi’n haws i bobl anabl ddefnyddio eu gwasanaethau.
  • Cynnal y cynllun teithio rhatach ar fysiau ar gyfer pobl anabl sy’n cynnig cymorth mwy hael na chynlluniau tebyg mewn rhannau eraill o’r DU.
  • Cymryd camau i wella’r modd y caiff anghenion dysgu ychwanegol eu hasesu a’r modd y darperir ar eu cyfer, gwneud adeiladau ysgolion yn fwy addas ar gyfer disgyblion anabl a datblygu llwybrau dysgu ar gyfer plant a phobl ifanc anabl;
  • Gwella amseroedd cyflawni ac ansawdd yr offer cymhleth a ddarperir ar gyfer pobl anabl.

Fframwaith gweithredu ar gyfer byw’n annibynnol

This entry was posted in Newyddion and tagged , , , , . Bookmark the permalink.

Comments are closed.