Ymwybyddiaeth ME
Mai y 12fed ydy Diwrnod Rhyngwladol Ymwybyddiaeth ME. Mae hwn yn adeg pan fo pobl ledled y byd yn chwilio am fodd i amlygu’r effaith tymor hir ac andwyol y gall y cyflwr ei gael ar bobl, a’r holl ffyrdd gwahanol mae’n gallu amharu ar deuluoedd a ffrindiau ac achosi gofid iddynt. Mae’r diwrnod hefyd yn gweithredu fel ffocws ar gyfer digwyddiadau codi arian.
Dewiswyd 12 Mai fel y dyddiad gan mai hwn ydy dyddiad geni Florence Nightingale, y nyrs fu’n ysbrydoliaeth i sefydlu’r Groes Goch Ryngwladol. Deellir iddi fynd yn wael yng nghanol ei thri degau gyda chyflwr gwanychol anhysbys. Er gwaethaf ei gwaeledd a gorfod treulio’r mwyafswm o’i hamser yn y gwely, sefydlodd yr Ysgol Nyrsio gyntaf. Mae ei enghraifft yn ysbrydoli pobl ag ME i ddyfalbarhau ac i weithio ar gyfer newid.
Wythnos ymwybyddiaeth 2017: 7-11 Mai
Awgrymiadau ynglŷn â sut y gellwch gyfrannu:
- Gwisgwch las – gwisgwch ddillad glas a byddwch yn barod i egluro pam, os gofynnir i chi
- Gwisgwch rubanau glas – gallwn gyflenwi nifer fechan neu gellwch eu prynu gan BRAME
- Cystadleuaeth gelfyddyd ac arddangosfa i ddarlunio ME
- Trefnwch gyngerdd
- Diffoddwch y gerddoriaeth – gofynnwch i siopau ddiffodd eu cerddoriaeth ac arddangos poster yn egluro sensitifrwydd i sŵn
- Rhannwch eich stori gyda’ch cyfryngau lleol
- Gosodwch arddangosfa yn eich llyfrgell neu eich gofod cymunedol lleol
- Trefnwch ddigwyddiad codi arian.
Oes gennych chi syniad gwahanol? – cysylltwch â ni am gymorth gyda chyhoeddusrwydd a chynllunio.